Glanhau landeri
Gallwn lanhau landeri
hyd at 5 llawr o uchder
o'r ddaear.
Gan ddefnyddio offer
sy'n cael ei weithredu
trwy gamera; gallwn yn hawdd weld pa sbwriel sydd angen cael gwared ohono, a bydd hwnnw wedyn yn cael ei hwfro allan gan beiriant pwerus.
Aquareach Ltd. 43 Llys Onnen, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9EZ ff. 01492 593482 sym. 07754 405 325 e. info@aquareach.biz
Y System 'Estyn a Golchi' Dan Do?
Gallwn lanhau gwydr dan do ar uchder, gan gynnwys pyllau grisiau, gan ddefnyddio'r system Estyn a Golchi Dan Do. System polyn yw hwn sy'n cael ei yrru gan fatri a wisgir fel gwregys. Mae dŵr wedi'i buro o botel ar y gwregys yn cael ei chwistrellu fel niwl tenau ar y gwydr. Mae pad micro ffibr ar ben y polyn yn glanhau a sychu'r gwydr, gan adael gorffeniad hollol lân. Y manteision Iechyd a Diogelwch yw na ddefnyddir unrhyw ysgolion, ac nid oes pibelli dŵr na llif dŵr yn achosi peryglon llithro neu faglu.
Y System 'Estyn a Golchi'?
Gall y system glanhau ffenestri Estyn a Golchi gyrraedd hyd at 7 llawr o uchder. Gall y system yma ymgorffori y system golchi dŵr poeth, chwyldroadol, lle bo hynny'n ymarferol. O'i gymharu â dŵr oer pur, mae dŵr cynnes pur yn cael gwared o staeniau ar wydr yn haws ac yn gyflymach, ac mae dŵr cynnes yn tueddu i anweddu yn gyflym; amgylchiadau llawer mwy derbyniol o sfbwynt y cwsmer.
Dyluniad y We: Pobol y We